English | Cymraeg

Potensial Digidol

Rhaglen ymarferol i rymuso elusennau ac entrepreneuriaid cymdeithasol i roi defnyddwyr yn gyntaf a manteisio i’r eithaf ar ddigidol.

 

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn ddigyffelyb o heriol i holl drydydd sector Cymru. Rydyn ni wedi gweld newid cyflym, arloesedd a hyblygrwydd anhygoel.

 

Nawr, rydyn ni angen cynorthwyo’n gilydd i symud ymlaen eto drwy sicrhau bod ein gallu digidol yn gadarn ac yn diwallu anghenion y bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu.

 

Bydd y rhaglen hon yn eich helpu chi a’ch mudiad i sicrhau eich bod yn barod am y byd digidol yn 2021 a thu hwnt.

 

Pryd:
6 awr yr wythnos am 6 wythnos, yn dechrau ar ddydd Llun 17 Mai

I bwy:
Uwch-arweinwyr mewn mentrau cymdeithasol ac elusennau yng Nghymru

Lle:
Wedi’i chyflwyno ar-lein drwy gymysgedd o weithdai a hyfforddiant

Cost:
Wedi’i thalu amdani’n llawn gyda chymhorthdal gan CGGC a Llywodraeth Cymru

 

 

Cefnogwyd gan CGGC a Chanolfan Cydweithredol Cymru 

Cyflwynwyd gan Third Sector Lab, Open Change a Service Works

wcc-logo
WCVA-Logo-Red

Ynglŷn â’r Rhaglen


Dros gyfnod o chwe wythnos, byddwch chi’n canolbwyntio ar:

 

  • Strategaeth ddigidol
    Byddwch chi’n edrych ar beth y mae hyn yn ei olygu a sut i’w integreiddio â strategaeth ehangach eich mudiad

 

  • Datblygu gwasanaethau digidol
    Gan ddefnyddio’r dull dylunio gwasanaeth Darganfod, Diffinio, Datblygu a Darparu, byddwch chi’n gweithio trwy broblem y mae eich mudiad yn ei hwynebu

 

  • Cynyddu gallu digidol
    Drwy arbrofi â gwahanol offer a thechnegau, byddwch chi’n gallu rhannu sgiliau newydd o fewn eich mudiad

 

Byddwch chi’n cael cyfle i ymhél ag amrediad eang o brofiadau dysgu:

 

  • Dysgu profiadol:
    gweithdai ymarferol a dosbarthiadau meistr arbenigol
  • Cymorth wedi’i deilwra i chi a’ch mudiad:
    cyfleoedd i weithio gyda hyfforddwr ar heriau neu broblemau penodol
  • Cefnogaeth gan gymheiriaid:
    ymunwch â rhwydwaith o ymarferwyr ar draws y sector sy’n wynebu problemau tebyg
  • Ysbrydoliaeth am arferion gorau:
    dysgwch gan fudiadau ac arweinwyr llwyddiannus yn y byd dylunio gwasanaethau digidol

Beth fyddwch chi’n gweithio arno

Mae hon yn rhaglen ymarferol lle byddwch chi’n gweithio trwy broblem benodol y mae eich mudiad yn ei hwynebu. Gallwch ganolbwyntio’n fewnol neu’n allanol.

 

Er enghraifft, gallech fod yn ystyried:

 

  • Sut i ddatblygu eich gwefan fel ei bod yn diwallu anghenion eich defnyddwyr yn well 
  • Sut i gyflwyno gwasanaeth presennol ar-lein 
  • Sut i integreiddio systemau mewnol fel eu bod yn fwy effeithlon

 

Byddwch chi’n:

 

  1. Darganfod beth yw’r broblem drwy gynnwys defnyddwyr gwasanaethau i ddeall yr hyn y maen nhw ei angen a sut allai hyn fod yn wahanol i’r hyn rydych chi’n ei wneud ar hyn o bryd 
  2. Diffinio’r broblem a’r her rydych chi’n ceisio ei datrys 
  3. Datblygu datrysiadau amrywiol posibl i’r her  
  4. Cyflwyno prototeip syml i’ch helpu chi i benderfynu beth i’w ddatblygu 
  5. Creu cynllun gweithredu er mwyn pennu eich camau nesaf

Amserlen

Wythnos Amserlen Thema 
17 MaiSesiwn grŵp Sesiwn un i un Cynllunio prosiect hunan-arweiniolCyflwyniad a chynllunio ffocws eich rhaglen
24 MaiDosbarth meistr Sesiwn grŵp Hyfforddiant/cymorth wedi’i deilwra Gwaith dilynol hunan-arweiniolStrategaeth Ddigidol
31 MaiDosbarth meistr Sesiwn grŵp Hyfforddiant/cymorth wedi’i deilwra Gwaith dilynol hunan-arweiniolYmchwil Defnyddwyr
7 MehDosbarth meistr Sesiwn grŵp Hyfforddiant/cymorth wedi’i deilwra Gwaith dilynol hunan-arweiniolDiffinio Problemau a Meddwl am Syniadau
14 MehDosbarth meistr Sesiwn grŵp Hyfforddiant/cymorth wedi’i deilwra Gwaith dilynol hunan-arweiniolCreu Prototeip
21 MehDosbarth meistr Sesiwn grŵp HyfforddiantTechnoleg barod Heriau, Cyfleoedd a Chynlluniau Gweithredu

I bwy mae’r rhaglen hon

Rydyn ni’n targedu ‘uwch-arweinwyr’ yn benodol sydd â’r awdurdod i gyflwyno newid gweithredol, go iawn yn eu mudiad drwy ddigidol.

Ymrwymiad eich mudiad

  • Gweithio’n agored
    Bydd angen i bob mudiad enwebu cyfranogwr penodol i fynychu’r rhaglen, ac i rannu’r wybodaeth a’r sgiliau gyda’i dîm a thu hwnt.

    Rydyn ni’n gofyn i’r holl rai hynny sy’n cymryd rhan i fyfyrio ar yr hyn y maen nhw’n ei ddysgu bob wythnos ac i rannu’r hyn a ddysgir. Byddwn ni’n eu cynorthwyo i wneud hyn, ond gallai hyn fod trwy flog rheolaidd, rhai fideos byr neu hyd yn oed edefyn Twitter.

 

  • Bod ar gael
    Amcangyfrifwn y bydd angen treulio o leiaf 6 awr yr wythnos ar y rhaglen er mwyn cael y budd mwyaf ohoni, felly rhaid i’r cyfranogwr fod ar gael am gymaint â phosibl o amser rhwng 17 Mai a 26 Mehefin.

    1 x dosbarth meistr   2 awr yr wythnos
    1 x gweithdy ymarferol 2 awr yr wythnos
    Cymorth datblygu wedi’i deilwra i’ch anghenion 

    e.e. hyfforddiant un i un personol, gweithdy ar gyfer eich tîm, trafodaeth â’ch bwrdd 

    30 munud yr wythnos 

    (gellir cyflwyno hwn mewn bloc yn dibynnu ar yr hyn a fyddai’n fwy buddiol i chi e.e. gweithdy 3 awr ar gyfer eich tîm)

    Gwaith dilynol hunan-arweiniol  1.5 awr yr wythnos
    Cyfanswm dros 6 wythnos  36 awr (tua 5 diwrnod gwaith)

 

Bydd hefyd cyflwyniadau gan arbenigwyr a sesiynau hyfforddi eraill y gallwch chi a’ch tîm fynd iddynt, ond mae’r rhain yn opsiynol.

 

  • Cael eich arwain gan y defnyddiwr
    Yr egwyddor graidd wrth ddylunio dull gweithredu digidol da yw sicrhau ei fod yn cael ei arwain gan y defnyddiwr. Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n mynd ati i ymgynghori â’ch defnyddwyr yn ystod y rhaglen, a gallai hyn eich arwain at ddarganfod gwahanol broblem neu ddatrysiad nad oeddech chi wedi’i ddisgwyl.

 

Eich ymrwymiad personol

Mae’r rhaglen hon yn seiliedig ar y gwerthoedd ymddiriedaeth, arloesedd, ansawdd a ffocws

Er mwyn cael y budd mwyaf, gofynnir i chi ymrwymo i’r canlynol: 

  • Blaenoriaethu’r sesiynau grŵp a’r tasgau wythnosol 
  • Adnabod y profiadau a’r arbenigeddau amrywiol yn y grŵp, a meithrin natur agored ac ymddiriedaeth 
  • Asesu eich heriau a’ch cyfleoedd eich hun yn onest  
  • Gweithio’n agored – rhannu eich gwaith wrth fynd ymlaen

I wneud cais

Llenwch y ffurflen gais erbyn 12pm (hanner dydd) dydd Dydd Mawrth 11 Mai